Behnaz Akhgar | |
---|---|
Ganwyd | 21 Mehefin 1980 Shiraz |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr |
Cyflwynydd tywydd o Gymru o dras Iranaidd yw Behnaz Akhgar (ganwyd 21 Mehefin 1980) sy'n cyflwyno'r tywydd ar wasanaeth BBC Cymru, gan gynnwys BBC Wales Today.
Ganwyd yn Shiraz yn Iran, a symudodd ei theulu i Abertawe pan oedd hi'n 10 oed.[1] Gweithiodd fel model yn ei harddegau, ond penderfynodd rhoi'r gorau iddi wedi i'w hasiantaeth ofyn iddi golli pwysau.[2] Enillodd radd mewn astudiaethau cyfathrebu o Brifysgol Morgannwg a diploma ôl-raddedig mewn newyddiaduriaeth ddarlledu o Brifysgol Caerdydd.[1]
Dechreuodd weithio yn y diwydiant teledu yn 2001, fel cynorthwy-ydd newyddion i BBC Cymru, yn gyntaf fel golygydd lluniau ac yn hwyrach yn newyddiadurwraig fideo. Dechreuodd gyflwyno'r tywydd yn 2008, a chafodd ei hyfforddi gan Swyddfa'r Tywydd yng nghanolfan y BBC yn Llundain.[1]
Cystadlodd ar y rhaglen S4C cariad@iaith yn 2014.[3]