Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 968 |
Daearyddiaeth | |
Arwynebedd | 39.11 km² |
Uwch y môr | 440 metr, 614 metr |
Yn ffinio gyda | Plombières-les-Bains, Raon-aux-Bois, Saint-Nabord, Xertigny |
Cyfesurynnau | 48.0131°N 6.4428°E |
Cod post | 88370 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Bellefontaine |
Mae Bellefontaine yn gymuned yn Département Vosges yn Rhanbarth Dwyrain Mawr, Ffrainc. Mae Bellefontaine yn gymuned amaethyddol yn bennaf. Fe'i croesir gan yr Afon Semouse sydd wedi'i leoli i'r de o’r gymuned. Mae ei diriogaeth yn ffurfio llwyfandir eang gydag uchder cyfartalog o 550 metr.
Mae rhan sylweddol o’i diriogaeth yn goediog (mwy na 1600 ha, neu tua 50% o'i diriogaeth). Y Forêt Domaniale de Humont (500 ha) yw'r goedwig fwyaf yn ardal Bellefontaine. Mae coedwigoedd cenedlaethol Thiébémont-les Drailles a choedwigoedd cymunedol y Rechreux, y Halleuche, a'r Trotelée hefyd yn rhan o’r gymuned.