Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.1645°N 4.2099°W |
Cod OS | SH522653 |
Cod post | LL55 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Siân Gwenllian (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Hywel Williams (Plaid Cymru) |
Pentref yng nghymuned Llanddeiniolen, Gwynedd, Cymru, ydy Bethel[1][2] ( ynganiad ). Saif ar ffordd y B4366 rhwng Caernarfon a Llandygái, 4 cilometr o Gaernarfon a 7 cilometr o Fangor.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[4]
Tyfodd y pentref yn sgil datblygiad chwareli Llanberis, yn enwedig Chwarel Dinorwig, gan fod Bethel wrth ochr y rheilffordd oedd yn cario llechi o Chwarel Dinorwig i'r Felinheli. I'r de o'r pentref mae bryngaer Dinas Dinorwig.
Gerllaw Bethel ei hun mae Saron a Penrhos. Yn y pentref ceir garej gwerthu ceir, tri chapel a chaffi 'Perthyn', a agorodd ei ddrysau ym mis Hydref 2020. Mae yna hefyd glwb pêl-droed.