Math | pentref, cymuned |
---|---|
Enwyd ar ôl | Gwerful Goch ferch Cynan ab Owain Gwynedd |
Poblogaeth | 351, 330 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 2,250.81 ha |
Cyfesurynnau | 53.007°N 3.44°W |
Cod SYG | W04000141 |
Cod OS | SJ033465 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Pentref bach gwledig, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Betws Gwerful Goch ( ynganaid )(ffurf hynafiaethol: Bet[t]ws Gwerfil Goch). Roedd gynt yn rhan o Sir Feirionnydd (tan 1974) ac ar ôl hynny Clwyd (1974 - 1996). Roedd Betws Gwerful Goch yn rhan o hen arglwyddiaeth annibynnol Dinmael yn yr Oesoedd Canol. Fe'i lleolir rhwng Melin y Wig a Chorwen yn ne eithaf y sir. Rhed Afon Alwen heibio iddi.