Bod dynol

Bod dynol
Pâr o fodau dynol llawn dwf (Gwlad Tai, 2007).
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Primates
Teulu: Hominidae
Genws: Homo
Rhywogaeth: H. sapiens
Isrywogaeth: H. s. sapiens
Enw trienwol
Homo sapiens sapiens
Linnaeus, 1758

Bod dynol yw gair gwyddonol am unrhyw un o'r hil ddynol (dynoliaeth neu ddynolryw) sy'n perthyn i rywogaeth Homo sapiens (neu ‘dyn deallus’); human yn Saesneg. Mae bod dynol yn epa mawr deudroed sy'n sefyll yn hollol unionsyth ac a osodir yn y teulu primataidd a elwir yn Hominidae.[1][2] Mae tystiolaeth genynnol o ran DNA yn dangos mai cynefin neu darddle bodau dynol yw Affrica, ac iddynt ddod o'r fan honno tua 200,000 o flynydoedd yn ôl.

Mae gan fodau dynol ymennydd sydd wedi datblygu llawer pellach na gweddill yr anifeiliaid, yn fiolegol felly. Gall resymoli yn haniaethol, gall ymwneud ag iaith, mewnsyllu a datrys problemau fel maen nhw'n codi. Mae'r gallu ymenyddol hwn ynghyd â chorff fertigol, gyda breichiau rhydd i symud neu ddal a thrin erfyn yn ei alluogi i ddefnyddio arfau llawer mwy nag unrhyw anifail arall i amddiffyn ei hun, i weithio am fwyd neu i ymosod.

Mae bodau dynol wedi eu dosbarthu ar hyd a lled y ddaear ar wahân i'r Antartig. Mae poblogaeth y ddaear bellach yn fwy na 6.7 biliwn, (data Gorffennaf, 2008).[3] Un isrywogaeth sydd ar gael: Homo sapiens sapiens. Mae'n famal ac felly'n llaetha i fwydo ei epil.

Fel epaod, mae dyn yn gymdeithasol ei natur. Mae wedi mireinio'r grefft o gyfathrebu'n effeithiol er mwyn iddo fynegi ei hun, cyfnewid syniadau a threfnu gweithgareddau. Mae wedi creu strwythurau cymdeithasol cywrain a chymhleth o grwpiau sy'n cydweithio ac yn cystadlu yn erbyn ei gilydd; grwpiau mor wahanol â'r teulu a chenhedloedd. Mae'r cydymwneud hwn rhwng dyn a dyn wedi sefydlu dros y milenias diwethaf draddodiadau, defodau, moesau, gwerthoedd a safon dderbyniol gan gymdeithas drwy gyfundrefn o ddeddfau. Gall dyn werthfawrogi harddwch ac estheteg sydd ynghyd â'r awydd i fynegi ei hun wedi arwain at gelfyddyd, llenyddiaeth a cherddoriaeth.

  1. M. Goodman, D. Tagle, D. Fitch, W. Bailey, J. Czelusniak, B. Koop, P. Benson, J. Slightom (1990). Primate evolution at the DNA level and a classification of hominoids, Cyfrol 30, Rhifyn 3, tud. 260. DOI:10.1007/BF02099995
  2.  Hominidae Classification. University of Michigan Museum of Zoology.
  3.  World POPClock Projection. U.S. Census Bureau, Population Division/International Programs Center (2008-07-05).

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in