Math | ynys |
---|---|
Poblogaeth | 18,590,000 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysfor Maleia |
Gwlad | Indonesia Maleisia Brwnei |
Arwynebedd | 748,168 km² |
Uwch y môr | 4,095 metr, 113 metr |
Gerllaw | Y Cefnfor Tawel, Môr Sulu, Môr De Tsieina, Y Môr Java, Môr Celebes, Makassar Strait |
Cyfesurynnau | 1°S 114°E |
Hyd | 1,366 cilometr |
Mae Borneo yn ynys yn ne-ddwyrain Asia. Gydag arwynebedd o 743,330 km² (287,000 milltir sgwar), hi yw'r drydedd ynys yn y byd o ran maint. Mae rhan ddeheuol a chanol yr ynys yn perthyn i Indonesia, dan yr enw Kalimantan. Yn Indonesia defnyddir "Kalimantan" am yr ynys i gyd. Rhennir y rhan ogleddol rhwng Maleisia a gwladwriaeth annibynnol Brwnei.
I'r gorllewin o Borneo mae Rhagynys Malaya ac ynys Sumatera. I'r de mae ynys Jawa ac i'r dwyrain Sulawesi. Y mynydd uchaf yw Mynydd Kinabalu yn Sabah, Maleisia, sy'n 4,095 m (13,435 troedfedd) o uchder.
Rhennir rhan Indonesia o'r ynys yn bedair talaith: Dwyrain Kalimantan, De Kalimantan, Gorllewin Kalimantan a Canolbarth Kalimantan. Rhennir rhan Maleisia yn ddwy dalaith, Sabah a Sarawak.
Mae cyfoeth eithriadol o fywyd gwyllt ar Borneo, er enghraifft 15,000 o rywogaethau o blanhigion blodeuog, yn cynnwys 3,000 o rywogaethau o goeden, 221 rhywogaeth o famal a 420 rhywogaeth o aderyn. Ar un adeg roedd fforest law drofannol yn gorchuddio rhan fawr o'r ynys, ond yn y blynyddoedd diwethaf mae llawer o'r fforest yma wedi diflannu. Mae poblogaeth ddynol yr ynys yn cynnwys tua 30 grŵp ethnig.