![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.4419°N 4.0286°W ![]() |
Cod OS | SN6284 ![]() |
Cod post | SY24 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au | Ben Lake (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentref yng nghymuned Tirymynach, Ceredigion, yw Bow Street ( ynganiad ). Mae'n ymestyn yn stribed hirgul o bobtu i lôn yr A487 tua 3 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Aberystwyth. Ar un adeg roedd gan y pentref orsaf ar Reilffordd y Cambrian.
Mae tarddiad yr enw yn ansicr. Yn ôl rhai awdurdodau 'Nantafallen' neu 'Nantyfallen' oedd hen enw'r gymdogaeth, ond 'Bow Street' yw'r unig enw arni heddiw (does dim fersiwn Cymraeg).
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]
O ganol y pentref mae lôn yn arwain i lawr i bentref bach Clarach a Bae Clarach ar yr arfordir, ar y ffordd i'r Borth. I'r de mae Comins Coch ac i'r dwyrain Plas Gogerddan. O'r gyffordd tu allan i'r pentref mae ffordd yn rhedeg i fyny i'r bryniau i gyfeiriad Rhaeadr Gwy. Hanner milltir i'r gogledd o'r pentref mae cymuned wledig Rhydypennau.
Mae'r pentref bellach yn bentref gymudo i bobl sy'n gweithio yn Aberystwyth.