Enghraifft o'r canlynol | drama |
---|---|
Awdur | Saunders Lewis |
Cyhoeddwr | Llyfrau'r Dryw |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1958 |
Genre | Drama |
Drama gan Saunders Lewis yw Brad, a gyhoeddwyd yn 1958. Seiliwyd y ddrama ar ddigwyddiad hanesyddol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, Cynllwyn 20 Gorffennaf, yn 1944, pan geisiodd rhai o swyddogion byddin yr Almaen ladd Adolf Hitler a chipio grym oddi ar y Blaid Natsïaidd.
Addaswyd y ddrama lwyfan yn ffilm i S4C ym 1994, o dan yr un enw Brad.