Britannia

Britannia
MathTalaith Rufeinig Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlPictiaid Edit this on Wikidata
PrifddinasLlundain, Camulodunum Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 43 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolyr Ymerodraeth Rufeinig Edit this on Wikidata
Sirpraetorian prefecture of Gaul Edit this on Wikidata
GwladRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.22°N 0.57°W Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegolyr Ymerodraeth Rufeinig Edit this on Wikidata
Map
Mae'r erthygl yma yn trafod y dalaith o'r Ymerodraeth Rufeinig. Am ystyron eraill, gweler Britannia (gwahaniaethu)

Britannia oedd yr enw a roddwyd gan y Rhufeiniaid ar y dalaith a sefydlwyd ar Ynys Prydain yn dilyn y goncwest dan Aulus Plautius yn 43 OC, yn nheyrnasiad yr ymerawdwr Claudius. Roedd Britannia yn dalaith gonswlaidd, hynny yw roedd yn rhaid i lywodraethwr y dalaith fod yn gonswl. Yn nes ymlaen, yr oedd yn bosibl i’r llywodraethwr fod o radd ecwestraidd.

Dros y blynyddoedd nesaf, ymestynnwyd y dalaith i ran helaeth o'r ynys; gyda'r llywodraethwr Agricola yn ymgyrchu ymhell i ogledd yr Alban. Yn y blynyddoedd wedyn, enciliodd y Rhufeiniaid o'r gogledd. Ar rai adegau, Mur Antoninus yn yr Alban oedd ffin y dalaith, ond ran amlaf Mur Hadrian yng ngogledd Lloegr oedd y ffin.

Yn nechrau'r 3g, rhannwyd Britannia yn ddwy dalaith, Britannia Superior a Britannia Inferior. Yn ddiweddarach, sefydlodd Diocletian bedair talaith, wedi eu cyfuno yn Diocese y Prydeiniau: Maxima Caesariensis yn y de-ddwyrain gyda’r brifddinas yn Llundain, Flavia Caesariensis yn y dwyrain gyda Lincoln fel prifddinas, Britannia Secunda yn y gogledd gyda’r brifddinas yn Efrog a Britannia Prima yn y gorllewin, yn cynnwys Cymru heddiw, gyda Cirencester fel prifddinas. Bu hefyd bumed talaith, Valentia, am gyfnod byr ymhellach i’r gogledd.

Ym mlynyddoedd olaf yr ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin, cododd nifer o gadfridogion o'r dalaith i hawlio'r orsedd. Yn 383, aeth Macsen Wledig (Magnus Maximus), a byddin o Brydain i geisio ei orseddu ei hun fel ymerawdwr. Yn 407, hawliodd Cystennin III yr orsedd, ac aeth yntau a byddin o Brydain i Gâl i ymladd yn erbyn yr ymerawdwr Honorius. Ymddengys iddo fynd a'r rhan fwyaf o'r milwyr Rhufeinig oedd yn weddill ym Mhrydain, gan adael y dalaith yn ddiamddiffyn. Tua 408 daeth gweinyddiaeth sifil Rhufain i ben ar yr ynys.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in