British National Party/ Plaid Genedlaethol Prydain | |
---|---|
Arweinydd | Nick Griffin |
Sefydlwyd | 1982 |
Pencadlys | Waltham Cross, Swydd Hertford |
Ideoleg Wleidyddol | Cenedlaetholdeb gwyn[1][2][3] Cenedlaetholdeb Prydeinig, Poblyddiaeth asgell-dde radicalaidd,[4][5][6]
|
Safbwynt Gwleidyddol | Dde eithafol |
Tadogaeth Ryngwladol | Front national (Ffrainc) Nationaldemokratische Partei Deutschlands (Yr Almaen) |
Tadogaeth Ewropeaidd | Euronat |
Grŵp Senedd Ewrop | dim |
Lliwiau | Coch, gwyn a glas |
Gwefan | www.bnp.org.uk |
Gwelwch hefyd | Gwleidyddiaeth y DU |
Plaid wleidyddol dde eithafol yn y Deyrnas Unedig yw'r British National Party (cyfieithiad answyddogol: "Plaid Genedlaethol Prydain") neu'r BNP ("PGP").[11] Mae ganddi tuda 56 o gynghorwyr mewn llywodraeth leol Lloegr, ond nid oes ganddi gynrychiolaeth o fewn Senedd y Deyrnas Unedig. Yn etholiad cyffredinol 2005, enillodd y BNP ond 0.7% o'r bleidlais boblogaidd, sef wythfed o'r holl bleidiau, ac yn etholiad 2007 Cynulliad Cymru daeth yn bumed yn nhermau pleidleisiau'r rhestrau rhanbarthol, ond eto methodd ag ennill unrhyw sedd. Enillodd dwy sedd i Senedd Ewrop yn 2009, un yn etholaeth Swydd Efrog a Humber, ac un yn etholaeth Gogledd Orllewin Lloegr.
Yn ôl ei chyfansoddiad, mae'r BNP yn "ymrwymedig i atal a gwrthdroi'r llanw o fewnfudo di-wyn ac i adfer, trwy newidiadau cyfreithlon, trafodaeth a chydsyniad, y gyfran andros o fawr wyn o'r boblogaeth Brydeinig a fodolant ym Mhrydain cyn 1948".[12][13] Mae'r BNP yn cynnig "cymhellion cadarn ond gwirfoddol i fewnfudwyr a'u disgynyddion i ddychwelyd adref".[14] Dadleir y BNP o blaid diddymu holl ddeddfwriaeth wrth-wahaniaethu y Deyrnas Unedig, a chyfyngir aelodaeth bleidiol i "grwpiau ethnig Prydeinig brodorol sy'n deillio o'r dosbarth 'Cawcasaidd brodorol'".[12]
Cred y BNP bod yna gwahaniaethau hiliol biolegol arwyddocaol sy'n penderfynu ymddygiad a chymeriad unigolion. Haerir y blaid taw rhan o natur dynol yw ffafriaeth dros ethnigrwydd personol.[14] Yn hanesyddol, o dan arweinyddiaeth John Tyndall, roedd gan y BNP tueddiadau gwrth-Semitaidd cryf, ond yn ddiweddar mae'r blaid wedi tueddu canolbwyntio ar Fwslimiaid fel ei phrif wrthwynebydd. Datganodd y blaid yn gyhoeddus nid yw'n ystyried Hindŵiaid a Sikhiaid i fod yn fygythiad, er nad yw'r BNP yn derbyn bod Hindŵiaid a Sikhiaid ymarferol yn Brydeinig yn ddiwylliannol neu'n ethnig. Yn y gorffennol mae'r BNP wedi gweithio gyda grwpiau gwrth-Islamaidd Sikhaidd a Hindŵaidd.[15]
Caiff y BNP ei hymyleiddio gan bleidiau gwleidyddol prif ffrwd yn y Deyrnas Unedig, ac mae'r blaid wedi'i beirniadu'n gryf gan yr arweinydd Ceidwadol David Cameron, cyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Syr Menzies Campbell, a chyn-Brif Weinidog Llafur Tony Blair.[16][17][18]