Bro Efrog

Bro Efrog
Mathdyffryn, gwastatir Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolGogledd Swydd Efrog
Daearyddiaeth
SirGogledd Swydd Efrog
Riding Dwyreiniol Swydd Efrog
(Siroedd seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau53.95°N 1.08°W Edit this on Wikidata
Map

Ardal o dir isel yn Swydd Efrog, Gogledd-ddwyrain Lloegr, ydy Bro Efrog, yn ogystal ag Ardal Cymeriad Cenedlaethol.[1] Ardal amaethyddol fawr ydy'r fro, a mae'r coridor trafnidiaeth gogledd–de mwyaf yng Ngogledd Lloegr.

Tir fferm ym Mro Efrog

Tybir yn aml bod Bro Efrog yn ymestyn o Afon Tees i'r gogledd i Foryd Hwmbr i'r de. Yn wir, mae Bro Efrog yn unig rhan ganolog yr ardal hwn, gyda Bro Mowbray i'r gogledd a Lefelau Penhwmbr i'r de. Mae'n ffinio â Bryniau Howard a Wolds Swydd Efrog i'r dwyrain a'r Penwynion i'r gorllewin. Mae crib isel o Farian Escrick yn nodi ei ffin ddeheuol. Mae Efrog yn gorwedd ynghanol y fro.

Afon fwyaf yr ardal ydy'r Ouse, ac ei lednentydd ydyn Afonydd Ure, Nidd a Foss. I ddwyrain yr ardal mae Afon Derwent yn llifo tua'r de i'r Ouse.

  1. Natural England: NCA Profile (28 Vale of York); adalwyd 24 Hydref 2020

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy