Brocoli

Broccoli
Brocoli
RhywogaethBrassica oleracea
GrŵpItalica Group
TarddiadYr Eidal (2,000 o flynyddoedd yn ôl)[1][2]
Cynhyrchwyr brocoli a blodfresych yn 2005

Planhigyn bwytadwy yn nheulu'r fresychen ydy brocoli. Mae ei flodyn gwyrdd golau wedi cael ei fwyta fel llysieuyn ers o leiaf cyfnod y Rhufeiniaid a mabwysiadwyd eu henw hwy arno yn Gymraeg a nifer o ieithoedd eraill, sef broccolo (Lladin), sy'n golygu "brig blodeuol y fresychen" a'r ffurf bachigol brocco, sef "hoelen fechan" neu "flaguryn".[3] Fel arfer caiff ei ferwi neu ei stemio, er mwyn ei feddalu ac er mwyn medru ei dreulio'n well.[4]

Dosbarthwyd brocoli i'r grŵp cylfatar 'Italica' o fewn y rhywogaeth Brassica oleracea. O ran ffurf ac edrychiad, mae'n edrych yr un siâp a choeden fechan: gyda'i ganghennau'n ymrannu ar yn ail a bonyn sylweddol; gellir bwyta'r bonyn hefyd. Caiff y blodau gwyrdd golau eu hamgylchu gan ddail, ac mae hyn yn debyg iawn i'r flodfresychen, sy'n grŵp cyltifar gwahanol o fewn yr un rhywogaeth.

Bridiwyd cnydau rêp dros sawl canrif yng ngwledydd gogleddol y Môr Canoldir, gan ddechrau oddeutu 6g CC, a dyma darddiad brocoli.[5] Ers hynny caiff ei ystyried yn fwyd maethlon a phwysig mewn sawl gwlad, yn enwedig gan yr Eidalwyr.[6]

Mewnforiwyd brocoli i Gymru am y tro cyntaf, hyd y gwyddom, o Antwerp, a hynny yng nghanol y 18g gan Peter Scheemakers.[7] Yn yr Unol Daleithiau, mewnforiwyd ef gan fewnfudwyr Eidalaidd, ond ni ddaeth yn boblogaidd tan y 1920au hwyr.[8]

  1. Buck, P. A (1956). "Origin and taxonomy of broccoli". Economic Botany 10 (3): 250–253. doi:10.1007/bf02899000. http://www.springerlink.com/content/ert85x3082740212/fulltext.pdf. Adalwyd 24 Ebrill 2012.[dolen farw]
  2. Stephens, James. "Broccoli—Brassica oleracea L. (Italica group)". University of Florida. t. 1. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-12-25. Cyrchwyd 14 Mai 2009.
  3. "broccoli". Merriam-Webster's Collegiate Dictionary (arg. 11th). t. 156. ISBN 978-0-87779-809-5. Cyrchwyd 9 Ebrill 2014.
  4. "Broccoli Leaves Are Edible". Garden Betty. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-08-10. Cyrchwyd 8 Mai 2013.
  5. Maggioni, Lorenzo; Bothmer, Roland; Poulsen, Gert; Branca, Ferdinando (2010). "Origin and Domestication of Cole Crops (Brassica oleracea L.): Linguistic and Literary Considerations". Economic Botany 64 (2): 109–123. doi:10.1007/s12231-010-9115-2. https://archive.org/details/sim_economic-botany_2010-06_64_2/page/109.
  6. Nonnecke, Ib (November 1989). Vegetable Production. Springer-Verlag Efrog Newydd, LLC. t. 394. ISBN 978-0-442-26721-6.
  7. Smith,J.T. Nollekins and His Times, 1829 cyfrol 2:101: "Scheemakers, on his way to England, visited his birth-place, bringing with him several roots of brocoli, a dish till then little known in perfection at our tables."
  8. Denker, Joel (2003). The world on a plate. U of Nebraska Press. t. 8. ISBN 978-0-8032-6014-6. Cyrchwyd 24 Ebrill 2012.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy