Brooke Shields

Brooke Shields
GanwydBrooke Christa Camille Shields Edit this on Wikidata
31 Mai 1965 Edit this on Wikidata
Manhattan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethactor teledu, actor ffilm, model, actor llwyfan, awdur plant, ysgrifennwr, cyfarwyddwr ffilm Edit this on Wikidata
Taldra6 troedfedd Edit this on Wikidata
TadFrancis Alexander Shields Edit this on Wikidata
MamTeri Shields Edit this on Wikidata
PriodAndre Agassi, Chris Henchy Edit this on Wikidata
PerthnasauMeryl Streep Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Arbennig 'Theatre World', Gwobr Golden Raspberry i'r Actores Wrth Gefn Waethaf, Gwobr Golden Raspberry i'r Actor Wrth Gefn Gwaethaf, Golden Raspberry Award for Worst Supporting Actress, Ellis Island Medal of Honor Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://brookeshields.komi.io Edit this on Wikidata

Actores a model Americanaidd yw Brooke Christa Shields (ganwyd 31 Mai 1965). Dechreuodd fodelu pan oedd yn blentyn ac enillodd glod beirniaid ffilm pan oedd yn ddim ond 12 oed am ei rôl arweiniol yn ffilm Louis Malle, Pretty Baby (1978), lle chwaraeodd ran putain yn New Orleans ar ddechrau'r 20g. Daeth Shields i enwogrwydd byd-eang yn y rôl yma, a pharhaodd i fodelu ac actio drwy ei harddegau a serennodd mewn sawl drama yn yr 1980au, gan gynnwys The Blue Lagoon (1980), ac Endless Love (1981) Franco Zeffirelli .

Yn 1983, gohiriodd Shields ei gyrfa fel model ac actores i fynd i Brifysgol Princeton, lle graddiodd gyda gradd baglor mewn Ieithoedd Rhamant. Yn y 1990au, dychwelodd Shields i'r byd actio ac ymddangos mewn mân rolau mewn amryw o ffilmiau. Serenodd hefyd yn sitcom NBC Suddenly Susan (1996–2000), a derbyniodd ddau enwebiad Golden Globe am ei gwaith, ac yna Lipstick Jungle (2008-2009). Yn 2017, dychwelodd Shields at yr NBC mewn rôl fawr yn Law & Order: Special Victims Unit yn 19eg tymor y sioe. Er 2014, mae Shields wedi lleisio Beverly Goodman yn y gyfres animeiddiedig Mr Pickles a'i spinoff Momma Named Me Sheriff.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy