Brut Dingestow

Brut Dingestow
Enghraifft o'r canlynoltestun, gwaith llenyddol Edit this on Wikidata
Rhan oBrut y Brenhinedd Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi14 g Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaBrut y Brenhinedd Edit this on Wikidata
Tudalennau316 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu13 g Edit this on Wikidata
GenreCyfieithiadau i'r Gymraeg, hanes Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata

Testun cynnar o'r ffug hanes Brut y Brenhinedd, y fersiwn Cymraeg Canol o'r Historia Regum Britanniae, llyfr enwocaf yr awdur Cambro-Normanaidd Sieffre o Fynwy (c.1100 - c.1155) a gyhoeddwyd ganddo tua'r flwyddyn 1136, yw Brut Dingestow. Fe'i ceir yn Llawysgrif Dingestow, sydd i'w dyddio i tua dechrau'r 14g. Ar sail manylion iaith ac orgraff, cynigir fod y testun ei hun wedi cael ei ysgrifennu rhywbryd yn y 13g. Cyfieithiad rhydd neu addasiad o destun Lladin Sieffre ydyw, ac mae'n perthyn i un o'r chwech prif grŵp o fersiynau o Frut y Brenhinedd; Brut Dingestow yw'r testun hynaf yn y grŵp sy'n dwyn ei enw.[1]

  1. Henry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Gwasg Prifysgol Cymru, 1942).

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy