Brwydr Bosworth | |||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Rhan Rhyfeloedd y Rhosynnau | |||||||
Harri Tudur, y cyntaf o frenhinllin y Tuduriaid | |||||||
| |||||||
Cydryfelwyr | |||||||
Rhisiart III, brenin Lloegr, Iorciaid John Howard, dug cyntaf Norfolk |
Harri Tudur, Iarll Richmond, Lancastriaid Cymru a gogledd Lloegr, hurfilwyr Ffrengig ac eraill John de Vere, 13ydd iarll Oxford Sir Gilbert Talbot | ||||||
Arweinwyr | |||||||
Rhisiart III, brenin Lloegr† | Iarll Richmond Iarll Rhydychen | ||||||
Nerth | |||||||
10,000 | 5,000 | ||||||
Anafusion a cholledion | |||||||
1,000 | 100 |
Frwydr Maes Bosworth (hen enw: Brwydr Bosworth) oedd brwydr olaf Rhyfeloedd y Rhosynnau a ymladdwyd ar 22 Awst, 1485. Roedd Rhyfel y Rhosynnau'n rhyfel cartref rhwng a Lancastriaid a'r Iorciaid a barhaodd am ddegawdau ola'r 15g, ac mae brwydr Maes Bosworth yn nodi diwedd teyrnasiad y Plantagenetiaid, pan laddwyd arweinydd yr Iorciaid, Richard III, brenin Lloegr gan fyddin Harri Tudur a ddaeth ar faes y gad yn Harri VII. Dyma, felly'r cyfnod hwnnw a elwir yn Cyfnod y Tuduriaid.
Glaniodd Harri Tudur ym Mhont y Pistyll ger Dale yn Sir Benfro,[1] ar 7 Awst, gyda byddin fechan o Lancastriaid, yn Ffrancwyr, Llydawyr ac Albanwyr yn bennaf, efallai tua 2,000 i gyd. Teithiodd o Benfro tua'r gogledd-ddwyrain yn hytrach na'n uniongyrchol tua'r dwyrain, ac yn ardal Cefn Digoll ger Y Trallwng ymunodd nifer sylweddol o Gymry â'i fyddin: llu o dde-orllewin Cymru dan Rhys ap Thomas, gwŷr Gwent a Morgannwg dan yr Herbertiaid a gwŷr o ogledd Cymru dan William Griffith o'r Penrhyn. Dywedir bod Harri wedi ymgynghori â'r brudwr enwog Dafydd Llwyd o Fathafarn yn ei blasdy bychan ym Mathafarn ar ei ffordd yno i gael ei farn ; chwaraeodd y cerddi brud a gylchredai yng Nghymru ran bwysig yn ymgyrch Harri Tudur fel modd i ysbrydoli ei gefnogwyr yng Nghymru i gredi mai ef oedd y Mab Darogan hirddisgwyliedig a fyddai'n adfer Ynys Prydain i feddiant y Brythoniaid, gan wireddu'r hen ddarogan. Erbyn iddo gyrraedd Cefn Digoll roedd ganddo fyddin o tua 5,000.
Roedd gan Rhisiart III, brenin Lloegr fyddin gryn tipyn yn fwy, ond roedd amheuaeth ynghylch teyrngarwch llawer ohonynt. Cyfarfu'r ddwy fyddin ar safle gerllaw Sutton Cheney a Market Bosworth yn Swydd Gaerlŷr yng nghanolbarth Lloegr, ond mae dadl ynglŷn â'r union leoliad. Tua dwyawr yn unig y parodd y frwydr, ac roedd tua 6,000 o wŷr dan Arglwydd Stanley a'i frawd, ac wedi iddynt wrthod ymuno a'r frwydr ar y dechrau, ymosodasant i gefnogi Harri Tudur. Lladdwyd Richard, a daeth Harri Tudur yn frenin fel Harri VII.