Enghraifft o'r canlynol | brwydr |
---|---|
Dyddiad | Mawrth 1405 |
Lleoliad | Castell y Grysmwnt |
Gwladwriaeth | Teyrnas Lloegr |
Brwydr rhwng un o gapteiniaid Owain Glyn Dŵr, sef Rhys Gethin, a milwyr Harri V, brenin Lloegr oedd Brwydr y Grysmwnt, a ymladdwyd yn 1405. Saif Castell y Grysmwnt ger pentref o'r un enw (Cyfeirnod OS: SO4024) yng ngogledd eithaf Sir Fynwy, 10 milltir i'r gogledd o Drefynwy, o fewn tafliad carreg â'r ffin rhwng Sir Fynwy a Swydd Henffordd yn Lloegr.
Cododd Rhys Gethin fyddin o tua 10,000 o filwyr a llwyddodd i losgi'r dref - y tryddydd mwyaf yn ne Cymru ar y pryd.
Danfonodd brenin Lloegr, sef Harri V fyddin gan gynnwys John Talbot, John Talbot, Iarll 1af Amwythig, Syr William Newport a Syr John Greynder a fartsiodd o Henffordd gan drechu'r Cymry. Lladdwyd rhwng 800 a 1,000 ohonyn nhw. Cymerwyd Owain ap Gruffydd ap Rhisiart, Ysgrifennydd Owain Glyn Dŵr a'i frawd-yng-nghyfraith John Hanmer yn garcharorion ac aethpwyd a nhw i Dŵr Llundain.