Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 2,629 |
Gefeilldref/i | Graben-Neudorf |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Fynwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.7036°N 2.9019°W |
Cod SYG | W04000807 |
Cod OS | SO375005 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Peter Fox (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Catherine Fookes (Llafur) |
Tref fechan a chymuned yn Sir Fynwy, Cymru, yw Brynbuga[1][2] (Saesneg: Usk). Mae'r enw Saesneg yn deillio o Afon Wysg sy'n llifo trwy'r dref. Hen enw Brythoneg ar gaer Rhufeinig y dref oedd "Burrio", sef caer "cadarn", "cryf", "enfawr" ac efallai i'r gair hwn newid yn "buga".
Sefydlwyd y dref gan y Rhufeiniaid ym 55 OC, gyda'r enw Lladin Burrium.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Catherine Fookes (Llafur).[4]