Math | cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Cymru |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.18°N 3.25°W |
Bryniau Clwyd (neu Moelydd Clwyd; Saesneg: the Clwydian Range) yw'r gadwyn o tua 21 o fryniau yng ngogledd-ddwyrain Cymru sy'n ymestyn o gyffiniau Llandegla-yn-Iâl a Nant y Garth yn y de i gyffiniau Prestatyn yn y gogledd, gyda Moel Famau (554 metr) yr uchaf ohonynt. Er nad ydynt yn arbennig o uchel, ceir golygfeydd braf o'u copaon hyd at fynyddoedd Eryri i'r gorllewin a thros Sir y Fflint i wastadeddau Swydd Gaer a chyffiniau Lerpwl i'r dwyrain. Gorwedd y rhan fwyaf o'r gadwyn yn Sir Ddinbych ond mae'r ffin â Sir y Fflint yn rhedeg ar hyd y copaon. I'r gorllewin i'r moelydd, ac yn gyfochrog iddynt gorwedd Dyffryn Clwyd. Mae'r rhan helaethaf wedi'i glustnodi'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Ceir yma dystiolaeth o wareiddiad bywiog a oedd yn ffynnu yn yr Oes Efydd ac yn Oes y Cerrig, sydd yn ôl yr archeolegydd Ian Brown yn un o'r llefydd pwysicaf drwy orllewin Ewrop o dystiolaeth o fywyd dyn.[1]