Bryniau Clwyd

Bryniau Clwyd
Mathcadwyn o fynyddoedd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCymru Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.18°N 3.25°W Edit this on Wikidata
Map
Copa Moel Famau, yr uchaf o Fryniau Clwyd; Mam y bryniau
Bryniau Clwyd o Fwlchgwyn ger Wrecsam.
Moel Arthur
Bwlch Ty'n y Mynydd: bwlch troed, rhwng Moel y Plas a Moel Llanfair

Bryniau Clwyd (neu Moelydd Clwyd; Saesneg: the Clwydian Range) yw'r gadwyn o tua 21 o fryniau yng ngogledd-ddwyrain Cymru sy'n ymestyn o gyffiniau Llandegla-yn-Iâl a Nant y Garth yn y de i gyffiniau Prestatyn yn y gogledd, gyda Moel Famau (554 metr) yr uchaf ohonynt. Er nad ydynt yn arbennig o uchel, ceir golygfeydd braf o'u copaon hyd at fynyddoedd Eryri i'r gorllewin a thros Sir y Fflint i wastadeddau Swydd Gaer a chyffiniau Lerpwl i'r dwyrain. Gorwedd y rhan fwyaf o'r gadwyn yn Sir Ddinbych ond mae'r ffin â Sir y Fflint yn rhedeg ar hyd y copaon. I'r gorllewin i'r moelydd, ac yn gyfochrog iddynt gorwedd Dyffryn Clwyd. Mae'r rhan helaethaf wedi'i glustnodi'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Ceir yma dystiolaeth o wareiddiad bywiog a oedd yn ffynnu yn yr Oes Efydd ac yn Oes y Cerrig, sydd yn ôl yr archeolegydd Ian Brown yn un o'r llefydd pwysicaf drwy orllewin Ewrop o dystiolaeth o fywyd dyn.[1]

  1. Ian Brown, Discovering a Welsh Landscape (Windgather Press, 2004), t.5

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy