Brythoneg

Brythoneg
Siaredir yn Prydain yn ystod yr Oes Haearn, de o Foryd Forth
Difodiant iaith Datblygodd i Hen Gymraeg, Cymbrieg, Cernyweg a Llydaweg erbyn 600 Cyfnod Cyffredin
Teulu ieithyddol Indo-Ewropeaidd
Codau ieithoedd
ISO 639-1 Dim
ISO 639-2 cel
ISO 639-3 Dim
Wylfa Ieithoedd

Hen iaith Gelteg P a siaradwyd ym Mhrydain oedd Brythoneg (a elwir hefyd yn Frythoneg gynnar neu Frythoneg gyffredin). Roedd hi'n iaith a siaradwyd gan y bobl o'r enw'r Brythoniaid.

Math o Gelteg Ynysig ydyw Brythoneg, a darddodd gyda Chelteg cynnar, proto-iaith (h.y. tarddiad) damcaniaethol a ddechreuodd ddargyfeirio i mewn i dafodieithoedd neu ieithoedd gwahanol yn ystod hanner cyntaf y mileniwm cyntaf.[1][2][3][4] Erbyn y 6g o'r Cyfnod Cyffredin, rhannodd Brythoneg i mewn i bedair iaith wahanol: Cymraeg, Llydaweg, Cernyweg, a Chymbrieg. Gelwir yr ieithoedd hyn yn ieithoedd Brythonaidd gyda'i gilydd. Mae tipyn o dystiolaeth i ddweud efallai roedd gan Bicteg gysylltiadau gyda Brythoneg a gallai efallai hefyd fod yn bumed gangen.[5][6][7]

Mae tystiolaeth o'r Gymraeg yn dangos dylanwad o'r Lladin ar Frythoneg yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid, yn enwedig mewn termau sy'n gysylltiedig â'r eglwys Gristnogol a Christnogaeth, sydd bron i gyd yn ddeilliadau Lladin.[8] Disodlwyd y Frythoneg yn yr Alban a'r de o Foryd Forth gan Aeleg yr Alban a'r Saesneg (a ddatblygodd fan hyn i mewn i Sgoteg), ond goroesodd hi hyd at y Canol Oesoedd yn Ne'r Alban a Cumbria — gweler Cymbrieg. Disodlodd y Frythoneg ar raddfa weddol gyson gan y Saesneg ledled Lloegr; yn y gogledd, diflannodd y Gymbrieg erbyn y 13eg canrif ac, yn y de, yr oedd Cernyweg yn iaith farw erbyn y 19eg canrif, ond bu ceisiadau i'w hadfywio.[9] Model hanesyddol O'Rahilly yn awgrymu efallai'r oedd iaith Frythonaidd yn Iwerddon cyn i'r ieithoedd Goidelig ymddangos, ond nid ydyw'r farn hon yn boblogaidd ymhlith ymchwilwyr eraill.

  1. Henderson, Jon C. (2007). The Atlantic Iron Age: Settlement and Identity in the First Millennium BC (yn en). Routledge, tud. 292–95
  2. Sims-Williams, Patrick (2007). Studies on Celtic Languages before the Year 1000 (yn en). CMCS, tud. 1
  3. Koch, John (2006). Celtic Culture: A Historical Encyclopedia (yn en). ABC-CLIO, tud. 1455
  4. Eska, Joseph (2008). "Continental Celtic", gol. Roger Woodard: The Ancient Languages of Europe (yn en). Caergrawnt
  5. Forsyth, Katherine (2006). gol. John Koch: Celtic Culture: A Historical Encyclopedia (yn en). ABC-CLIO, tud. 1444, 1447
  6. Forsyth, Katherine, Language in Pictland : the case against "non-Indo-European Pictish" (Utrecht: de Keltische Draak, 1997), 27.
  7. Jackson, Kenneth (1955). "The Pictish Language", gol. F. T. Wainwright: The Problem of the Picts (yn en). Caeredin: Nelson, tud. 129–66
  8. Lewis, H. (1943). Yr Elfen Ladin yn yr Iaith Gymraeg (yn cy). Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru
  9. Cyngor Cernyw, 6 Rhagfyr 2010. UNESCO classes Cornish as a language in the ‘process of revitalization’ Archifwyd 2011-05-14 yn y Peiriant Wayback.. Adalwyd 28 Ebrill 2011.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy