Math | cymuned, pentrefan |
---|---|
Poblogaeth | 723, 692 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 7,337.94 ha |
Cyfesurynnau | 52.409°N 3.184°W |
Cod SYG | W04000252 |
Cod OS | SO194797 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | James Evans (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
Pentref a chymuned ym Mhowys, yw Bugeildy[1] (Saesneg: Beguildy). Saif bron ar y ffîn a Lloegr, ar lan orllewinol Afon Tefeidiad, i'r gogledd-orllewin o Dref-y-clawdd. Mae croglen yr eglwys yn dyddio o'r 15g, ac mae gweddillion castell mwnt a beili Normanaidd gerllaw.
Heblaw pentref Bugeildy, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Llanddewi-yn-Heiob a Cnwclas. Ganed Vavasor Powell yng Nghnwclas. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 704.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[3]