Bwrdd yr Iaith Gymraeg

Bwrdd yr Iaith Gymraeg

Datblygu'r Gymraeg trwy Gymru
Datblygu'r Gymraeg trwy Gymru

Arwyddair"Gwneud hi'n haws i bawb ddefnyddio Cymraeg ymhob agwedd ar fywyd."[1]
PencadlysCaerdydd, Caerfyrddin, a Chaernarfon
Iaith / Ieithoedd swyddogolCymraeg
Prif WeithredwrMeirion P. Jones
SefydlwydRhagfyr 1993
DiddymwydMawrth 2012
MathAsiantaeth weithredol
LleoliadCymru
CyllidebDim cyllideb, ond yn cael grant blynyddol gan y llywodraeth o £12m
Gwefanwww.webarchive.org.uk/wayback/archive/20081121144021/http://www.byig-wlb.org.uk/Pages/Hafan.aspx
Hysbyseb teledu siarad Cymraeg.

Corff statudol oedd 'Bwrdd yr Iaith Gymraeg a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU fel rhan o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Derbyniodd y Bwrdd grant blynyddol gan y llywodraeth, £13.4 miliwn yn 2006–7, a oedd i fod i'w ddefnyddio er mwyn "hybu a hwyluso" defnydd o'r iaith Gymraeg. Roedd y Bwrdd yn gyfrifol am weinyddu Deddf yr Iaith Gymraeg, ac am sicrhau bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn cadw at ei rheolau.

Gellir ystyried Cyngor yr Iaith Gymraeg, a sefydlwyd yn 1973, fel cynsail at sefydlu'r Bwrdd. Wedi hynny, sefydlwyd corff ymgynghorol anstadudol ym 1988 o dan gadeiryddiaeth John Walter Jones.[2] Gwnaeth y bwrdd argymhellion i’r llywodraeth yn 1991 bod angen Deddf Iaith newydd, gan arwain at Deddf Iaith 1993 a sefydlodd y bwrdd statudol.[3]

Ar ddiwedd 2004 cyhoeddodd y Prif Weinidog Rhodri Morgan "goelcerth y cwangos" a fyddai yn diddymu sawl corff yn cynnwys Bwrdd yr Iaith.[4] Croesawyd hyn gan Gymdeithas yr Iaith[5] ond nid oedd pawb yn cytuno.[6] Yn 2006 cafwyd pleidlais yn y Cynulliad yn gorchymyn i Llywodraeth y Cynulliad ohirio'r cynllun.[7][8] Yn dilyn Etholiad y Cynulliad 2007 cafwyd cytundeb Cymru'n Un rhwng Llafur a Phlaid Cymru. Dair mlynedd yn ddiweddarach cyflwynodd y Llywodraeth y Mesur Iaith hir-ddisgwyliedig ac fe'i basiwyd gan y Cynulliad ar 7 Rhagfyr 2010. Byddai'r Ddeddf yn sefydlu swydd newydd Comisiynydd Iaith gan ddod a Bwrdd yr Iaith i ben ar ôl bron i ugain mlynedd.[9] Diddymwyd Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar 31 Mawrth 2012 a trosglwyddwyd staff, eiddo a dyletswyddau y bwrdd i Lywodraeth Cymru ac i Gomisiynydd y Gymraeg.[10][11]

  1. Archif Gwefan Bwrdd yr Iaith Gymraeg
  2. "John Walter Jones yn cofio Deddf yr Iaith Gymraeg". BBC Cymru Fyw. 2018-10-19. Cyrchwyd 2023-05-03.
  3. Rowlands, Neil. "Hanes a datblygiad yr iaith Gymraeg / The history and development of the Welsh language – Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog". Cyrchwyd 2023-05-03.
  4. "Ymateb y cwangos". 2004-11-30. Cyrchwyd 2023-05-05.
  5. "Gofyn am gyfarfod gyda Rhodri Morgan ac Alun Pugh i drafod dyfodol yr iaith | Cymdeithas yr Iaith Gymraeg". cymdeithas.cymru. 2004-12-06. Cyrchwyd 2023-05-05.
  6. "Dadl am ddyfodol bwrdd yn parhau". 2005-10-11. Cyrchwyd 2023-05-05.
  7. "BBC CYMRU'R BYD - Cyfoes - Wythnos o Feddwl". www.bbc.co.uk. 2006-04-09. Cyrchwyd 2023-05-05.
  8. "Bwrdd Iaith: Gohirio cyfuno". 2006-07-04. Cyrchwyd 2023-05-05.
  9. "Pen y daith i'r Mesur Iaith". 2010-12-07. Cyrchwyd 2023-05-05.
  10. "Gorchymyn Bwrdd yr Iaith Gymraeg (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2012". legislation.gov.uk. 2012. Cyrchwyd 2023-05-06.
  11. "Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith yn 'siarad rwtsh'". Golwg360. 2012-02-15. Cyrchwyd 2023-05-03.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in