Bwrdeistref Blackburn gyda Darwen

Bwrdeistref Blackburn gyda Darwen
Mathbwrdeisdref Edit this on Wikidata
PrifddinasBlackburn Edit this on Wikidata
Poblogaeth154,739 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Gaerhirfryn
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd137 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.68°N 2.45°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE06000008 Edit this on Wikidata
GB-BBD Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholcouncil of Blackburn with Darwen Borough Council Edit this on Wikidata
Map

Awdurdod unedol yn sir seremonïol Swydd Gaerhirfryn, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Bwrdeistref Blackburn gyda Darwen (Saesneg: Borough of Blackburn with Darwen).

Mae gan yr ardal arwynebedd o 137 km², gyda 149,696 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar bum ardal arall yn Swydd Gaerhirfryn, sef Bwrdeistref Chorley i'r gorllewin, Bwrdeistref De Ribble i'r gogledd-orllewin, Bwrdeistref Cwm Ribble i'r gogledd, a Bwrdeistref Hyndburn a Bwrdeistref Rossendale i'r dwyrain. Mae'n ffinio ar Fanceinion Fwyaf i'r de.

Bwrdeistref Blackburn gyda Darwen yn Swydd Gaerhirfryn

Ffurfiwyd yr awdurdod fel ardal an-fetropolitan o'r enw "Bwrdeistref Blackburn" dan reolaeth cyngor sir fetropolitan Swydd Gaerhirfryn ar 1 Ebrill 1974 dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Fe'i hailenwyd ym Mai 1997, a daeth yn awdurdod unedol, sy'n annibynnol ar y sir, ar 1 Ebrill 1998.

Rhennir y fwrdeistref yn saith plwyf sifil, gyda dwy ardal ddi-blwyf. Trefi Blackburn a Darwen yw'r prif aneddiadau yn yr ardal.

  1. City Population; adalwyd 11 Hydref 2020

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in