Bwrdeistref Caerfyrddin (etholaeth seneddol)

Roedd Bwrdeistref Caerfyrddin yn etholaeth fwrdeistrefol a ffurfiwyd ym 1542 ac a ddiddymwyd ym 1918. Roedd yn dychwelyd un Aelod Seneddol i Dŷ'r Cyffredin Senedd y Deyrnas Unedig. Roedd unrhyw un a oedd wedi ei dderbyn yn fwrdeisiwr tref Caerfyrddin neu wedi cyflawni prentisiaeth gyflawn o 7 mlynedd i un o'r bwrdeiswyr yn cael pleidleisio; doedd dim angen byw yn yr etholaeth. Ym 1832 ychwanegwyd bwrdeiswyr tref Llanelli at yr etholfraint.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy