Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol

Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol
Enghraifft o'r canlynolgwobr Edit this on Wikidata
Cadeiriau barddol Hedd Wyn

Un o brif wobrau yr Eisteddfod Genedlaethol yw'r Gadair. Yn draddodiadol, gwobr ydyw am yr awdl orau o dan 300 llinell, er bod tueddiad diweddar i gwtogi nifer y llinellau i 200. Mae'r seremoni wobrwyo yn digwydd ar ddydd Gwener yr Eisteddfod gyda'r Orsedd yn bresennol ar y llwyfan.

Er bod Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn greadigaeth gymharol ddiweddar (ffrwyth gweithgareddau Iolo Morgannwg ac eraill), mae'r arfer o gadeirio bardd yn deillio o'r Oesoedd Canol pan arferid neilltuo cadair arbennig i'r pencerdd yn llys y brenin, yn ôl Cyfraith Hywel Dda.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy