Math | mynydd, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Cymru |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 893 metr |
Cyfesurynnau | 52.6998°N 3.9087°W |
Manylion | |
Amlygrwydd | 608 metr |
Rhiant gopa | Aran Fawddwy |
Cadwyn fynydd | Eryri |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Un o fynyddoedd enwog gogledd Cymru yw Cader Idris (neu Cadair Idris ). Fe'i lleolir ym Meirionnydd, de Gwynedd, ger Dolgellau, ym mhen deheuol Parc Cenedlaethol Eryri.
Mae ganddo bedwar copa sef Geugraig, yna tua'r gorllewin Mynydd Moel, wedyn Pen y Gadair ei hun (sef y fam-gopa) ac yna'r Cyfrwy a'r Tyrau Mawr yn ymestyn i'r dwyrain tua'r môr. Mae Pen y Gadair 893 metr uwch ben lefel y môr.
Mae cwt cysgodi ar gopa Pen y Gadair, ac yn ôl hen dradoddiad, bydd pob un a gwsg ar y mynydd, yn deffro naill ai fel bardd neu fel gwallgofddyn.[1]