Cadfarch | |
---|---|
Ganwyd | Gogledd Cymru |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | mynach |
Blodeuodd | 6 g |
Dydd gŵyl | 24 Hydref |
Tad | Caradog Freichfras |
Mam | Tegau Eurfron |
Sant Cymreig oedd Cadfarch (bl. 6g). Mae'n nawddsant Penegoes (Powys) ac Abererch (Gwynedd).[1] Ei ddydd gŵyl yw 24 Hydref.[2]
Yn ôl yr achau, mab Caradog Freichfras oedd Cadfarch. Roedd Sant Cawrdaf yn frawd iddo. Dywedir iddo sefydlu clasau neu eglwysi ym Mhenegoes - a adnabyddid fel Llangadfarch yn y gorffennol. Cysylltir ef gydag Abererch ond mae'r cyfeiriad cyntaf ato'n enwi 'Aberech', sef Berach, a gysylltir gydag Aberdaron yn Llŷn (Arch.Camb., 86 (1931), t.166 n.34), Capel y Ferach yw Capel Anelog (WATU).
Ceir Ffynnon Gadfarch ger eglwys Penegoes a oedd yn dda at wella'r crudcymalau.[1]
Mab iddo oedd sant Elgud. Ni wyddys dim amdano.
Roedd Cadfarch yn un o'r "Saith Gefnder", sef Beuno, Cybi, Seiriol, Deiniol, Cawrdaf, Dewi a Chadfarch ei hun, a aeth ar bererindod i Rufain i weddïo am law ar ôl tair blynedd o sychder eithriadol. Bu'r daith yn llwyddiannus a dywedir i'r dafn cyntaf o law syrthio ar lyfr Sant Cadfarch.[3]