Math | safle archaeolegol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.1896°N 3.9848°W |
Ceir olion Caer Llanio (Lladin: Bremia) ger glan Afon Teifi ychydig i'r gogledd-orllewin o bentref Llanddewi Brefi, Ceredigion, Cymru (cyfeirnod OS: SN643564).
Mae'n gaer Rufeinig fechan ar ffordd Rufeinig Sarn Helen. Adeiladwyd hi tua 75 OC. fel caer gydag arwynebedd o 1.5 ha (tair acer a hanner). Ceir cofnod i'r cohors quingenaria II Asturium ffurfio'r garsiwn yma ar un cyfnod.
Yn gynnar yn yr 2g, gwnaed y gaer yn llai. Tu allan i'r gaer, cafwyd hyd i weddillion vicus milwrol, ac mae olion baddondy Rhufeinig i'r de o'r gaer.
Mae'r safle yng ngofal CADW ac yn agored i'r cyhoedd. Cofrestrwyd yr heneb hon gyda'r rhif SAM unigryw: CD129.[1]