![]() | |
Math | safle archaeolegol ![]() |
---|---|
Sefydlwyd |
|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | mytholeg Roeg ![]() |
Lleoliad | Hisarlik ![]() |
Sir | Çanakkale, Çanakkale ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 158 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 39.9575°N 26.2389°E ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd ![]() |
Manylion | |
Dinas yn Asia Leiaf (Twrci heddiw) oedd Caerdroea (Hen Roeg: Τροία, Troia, hefyd Ίλιον, Ilion; Lladin: Trōia neu Īlium, Hetheg: Wilusa neu Truwisa). Hefyd: 'Caerdroia', 'Caer Droea', 'Caer Droia'. Y ffynhonnell fwyaf adnabyddus ar gyfer hanes y ddinas yw'r Iliad, a briodolir i Homeros, sy'n adrodd hanes rhan o Ryfel Caerdroea, pan mae byddin Roegaidd yn gwarchae ar y ddinas. Yn ddiweddarach, adeiladwyd dinas Rufeinig Ilium ar y safle yn nheyrnasiad yr ymerawdwr Augustus.
Heddiw, mae'n enw safle archaeolegol, Twrceg Truva, yn Hisarlık yn Anatolia, ger arfordir Talaith Çanakkale yng ngogledd-orllewin Twrci, i'r de-orllewin o'r Dardanelles a gerllaw Mynydd Ida.
Yn y 1870au, bu'r archaeolegydd Almaenig Heinrich Schliemann yn cloddio yma, a darganfu olion nifer o ddinasoedd o wahanol gyfnodau ar y safle, un ar ben y llall. Credai ef mai'r ddinas a enwyd yn Troia VII oedd y ddinas yn yr Iliad.
Enwyd y safle yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1998.