Math | dinas, tref sirol, dinas fawr, ardal ddi-blwyf |
---|---|
Ardal weinyddol | Dinas Caerloyw |
Poblogaeth | 145,563 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Gaerloyw (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 34.5 km² |
Gerllaw | Afon Hafren |
Cyfesurynnau | 51.8644°N 2.2444°W |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Gloucestershire County Council |
Dinas yn Swydd Gaerloyw, De-orllewin Lloegr, yw Caerloyw (Saesneg: Gloucester,[1] Lladin: Glevum). Fe'i lleolir mewn ardal ddi-blwyf yn ardal an-fetropolitan Dinas Caerloyw.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Caerloyw boblogaeth o 136,362.[2]
Prifddinas Swydd Gaerloyw yw Caerloyw. Fe'i lleolir ar lan ddwyreiniol Afon Hafren, rhwng Coedwig Dena i'r gorllewin, Bryniau Malvern i'r gogledd-orllewin, a Bryniau Cotswold i'r dwyrain. Mae tua 160,000 o bobl yn byw yn y ddinas.
Bu Caerloyw yn un o ddinasoedd y Rhufeiniaid gyda'r enw Lladin Glevum. Cafwyd hyd i ddarnau arian Rhufeinig yn y ddinas, yn ogystal ag olion muriau Rhufeinig.
Mae'r ddogfen Historia Brittonum yn dweud i daid Gwrtheyrn reoli Caerloyw. Syrthiodd Caerloyw i ddwylo'r Saeson ar ôl Brwydr Deorham, y fuddugoliaeth Seisnig a rannodd Frythoniaid Cymru a'r Hen Ogledd o Frythoniaid de orllewin Prydain.
Mae'r brenin Edward II, y 'Tywysog Cymru' Seisnig cyntaf, wedi'i gladdu yn Eglwys Gadeiriol Caerloyw. Roedd wedi cael ei lofruddio yn 1327 yng Nghastell Berkeley yn yr un sir ar ôl cael ei ddiorseddu.
Cyfeiria at borth ogleddol Caerloyw yn y Cytundeb Tridarn (1405) fel un o'r lleoedd sy'n nodi'r ffin arfaethedig rhwng Cymru Fawr a dwy ran Lloegr dan amodau'r cytundeb hwnnw.