Enghraifft o'r canlynol | mineral species |
---|---|
Math | calcite group |
Yn cynnwys | calsiwm carbonad |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y ffurf sefydlog o'r mwyn calsiwm carbonad CaC03 ar y tymereddau a'r gwasgeddau sy'n bodoli ar wyneb y ddaear neu'n agos iddo, yw calsit. Mae ffurfiau eraill ar y mwyn, megis aragonit, yn troi'n galsit dros amser daearegol.
Mae calsit yn fwyn creu-creigiau o bwys; dyma brif gyfansoddyn calchfaen a'r rhan fwyaf o farmorau ac mae'n gyffredin mewn cregyn infertebratau. Mae ei grisialau gwyn neu lwyd yn meddu ar holltedd rhombohedrol perffaith, fel rheol.[1]