Camel

Camelod
Dromedari (Camelus dromedarius)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Artiodactyla
Teulu: Camelidae
Genws: Camelus
Linnaeus, 1758
Rhywogaethau

Camelus bactrianus
Camelus dromedarius
Camelus gigas (ffosil)
Camelus hesternus (ffosil)
Camelus sivalensis (ffosil)

Carnolyn mawr sy'n cnoi ei gil, a chanddo goesau main, hir, gyda chrwb neu ddau ar ei gefn yw'r camel. Mae’r camel wedi’i ymaddasu’n arbennig i fyw mewn diffeithdiroedd yn ei allu i fyw ar blanhigion dreiniog gwydn, yn ei allu i gadw dŵr ym meinwe’r corff, ac yn ei draed gyda gwadnau llydan trwchus a chaled a charnau bychain ar flaenau bysedd y traed. Gweithreda'r crwb fel storfa braster a gall oroesi am gyfnodau hiri heb fwyd na diod. Mae'r dromedari (camel uncrwb, camel rhedeg) yn byw yn Arabia a gogledd Affrica; mae'r camel deugrwb yn byw yng nghanolbarth Asia.

Mae camelod yn anifeiliaid gwaith a ddefnyddir gan ddyn i gludo teithwyr a chargo. Ceir tair rhywogaeth: y camel dromedari un crwb (sef 94% o boblogaeth camel y byd), y camel Bactria deugrwb (C. bactrianus) ac sy'n 6%. Y drydedd rhywogaeth yw'r camel Bactria gwyllt (C. ferus) sy'n rhywogaeth ar wahân ac sydd bellach mewn perygl difrifol.

Defnyddir y gair camel hefyd yn anffurfiol mewn ystyr ehangach, a'r term mwy cywir yw "camelid", i gynnwys pob un o'r saith rhywogaeth o'r teulu Camelidae : y camelod gwirioneddol (y tair rhywogaeth uchod), ynghyd â chamelidau'r Byd Newydd: y lama, yr alpaca, y guanaco, a'r ficuña.[1] Daw'r gair ei hun o'r Lladin: camelus a'r Groeg (kamēlos) sy'n tarddu o'r Hebraeg, Arabeg neu Phoenician: gāmāl.[2]

  1. Bornstein, Set (2010). "Important ectoparasites of Alpaca (Vicugna pacos)". Acta Veterinaria Scandinavica 52 (Suppl 1): S17. doi:10.1186/1751-0147-52-S1-S17. ISSN 1751-0147. PMC 2994293. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2994293.
  2. Herper, Douglas. "camel". Online Etymology Dictionary. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 September 2013. Cyrchwyd 28 November 2012.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy