Yn dilyn gwaith 4 mlynedd gan y Swansea Canal Navigation Company, agorodd Camlas Abertawe ym 1798. Mae'r gamlas yn llifo o 'Hen Neuadd' (Abercraf), drwy Gwm Tawe hyd at ddociau Abertawe, siwrne o 16.5 milltir (26.6 km). Caewyd y gamlas ym 1931.
Rhedodd o ddociau Abertawe am 16.5 milltir lan Cwm Tawe at Abercraf. Oedd eisiau 10 loc i gyrraedd Pontardawe a 26 pellach i ddringo i Hen Neuadd Abercraf (cyfanswm uchter o 373 troedfedd, 114 m); cyfanswm o 36 lloc. Gwasanaethodd gweithfeydd alcam, dur a glofeydd De Cymru. Roedd i'r gamlas bedair cangen fer ee cangen Waun Coed rhwng Pontardawe ac Ynysmeudwy. Rhedodd ar draws llawr y cwm i wasanaethau glofeydd uwchben ardal Gelli Nudd.
Dros y blynyddoedd, collwyd darnau i heolydd a datblygiadau ac erbyn 2018, rhedodd y gamlas o Glydach i Drebannws, ac o Bontardawe i Odre’r Graig.