Canu mawl yw'r enw a ddefnyddir i ddisgrifio cerddi beirdd Cymraeg i'w noddwyr yn yr Oesoedd Canol. Yn y traddodiad barddol Cymraeg tywysogion ac uchelwyr oedd y noddwyr hynny, ac felly'n mae'n arfer galw beirdd y cyfnod yn Feirdd y Tywysogion (hyd at y goresgyniad Seisnig) a Beirdd yr Uchelwyr (ar ôl hynny).
Gellir defnyddio'r term i ddisgrifio canu o'r fath mewn traddodiadau eraill yn ogystal.