Caradog ab Iestyn | |
---|---|
Ganwyd | 11 g Teyrnas Morgannwg |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | tirfeddiannwr |
Blodeuodd | 1130 |
Tad | Iestyn ap Gwrgant |
Mam | Angharad ferch Elystan Glodrhydd |
Plant | Morgan ap Caradog ap Iestyn, Meurig ap Caradog ab Iestyn ap Gwrgant, Maredudd ap Caradog ab Iestyn ap Gwrgant |
Ganwyd Caradog ab Iestyn ap Gwrgant tua diwedd canrif 12 (fl. 1130) yn fab i Iestyn ap Gwrgant. Ef oedd sylfaenydd y teulu "Avene" ym Morgannwg.[1]
Ceir dau gyfeiriad pwysig ato: yn Llyfr Llandaf. Yn y cyntaf enwir ef ymysg y gwŷr lleyg mewn siarter sydd yn tystio i Caradog ap Gruffydd (bu f. 1081 ) roi tir yn Edlygion i Esgob Herwald. Yn yr ail gyfeiriad ato, disgrifir ef yn bennaeth a chanddo fyddin. Gwnaeth gymwynas i Esgob Herwald ac anrhegwyd ef gyda maenor yn nyffryn afon Elai. Ymddengys, felly, i Iestyn, ar ôl marw Caradog etifeddu'r tiroedd a'r teitl gan ddod yn arglwydd Morgannwg ac mai efe ydoedd y tywysog a fwriwyd allan gan y Normaniaid pan wnaethent ymosod ar yr ardal tua'r flwyddyn 1090.
Nid oes ond un cyfeiriad cyfoes at Caradog: gyda'i frodyr Gruffydd a Goronwy yn 1127 gwnaeth weithred drahaus er na wyddyd ddim beth ydoedd. Wedi i lywodraeth Iestyn gwympo, derbyniodd gan Robert Fitz Hamon y wlad rhwng Nedd ac Afan (ac, efallai, fwy na hynny) fel daliad isradd, ac i'w olynwyr gadw'r daliad hwn am sawl cenhedlaeth.
Trwy ei wraig, Gwladus, ferch Gruffydd ap Rhys, bu iddo bedwar mab — Morgan, Maredudd, Owain, a Cadwallon; dilynwyd ef yn Aberafan gan Morgan.