Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 730, 735 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 4,598.27 ha |
Cyfesurynnau | 52.5565°N 3.5319°W |
Cod SYG | W04000260 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Russell George (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Craig Williams (Ceidwadwr) |
Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Carno.[1] Saif ar y briffordd A470 rhwng Llanbrynmair a Caersŵs. Mae Afon Carno yn llifo gerllaw'r pentref.
Daeth Carno yn enwog fel canolfan busnes Laura Ashley am rai blynyddoedd. Yn wreiddiol roedd y ffatri yn y ganolfan gymdeithasol yma, ond yn 1967 symudodd i'r hen orsaf reilffordd. Yn ddiweddarach, symudwyd y rhan fwyaf o'r swyddi i'r Drenewydd, a chaewyd y ffatri yng Ngharno yn 2005. Mae Laura Ashley wedi ei chladdu ym mynwent yr eglwys.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[3]