Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 592, 626 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 2,733.04 ha |
Cyfesurynnau | 52.6°N 3.2°W |
Cod SYG | W04000262 |
Cod OS | SJ163055 |
Pentref a chymuned ym Mhowys, yw Castell Caereinion[1] (Saesneg: Castle Caereinion). Saif y pentref i'r gorllewin o'r Trallwng ac ychydig i'r de o'r briffordd A458, ar y ffordd gefn B435.
Ymhlith ei hynafiaethau mae Tŷ Mawr, tŷ Cymreig traddodiadol sy'n dyddio o 1400, ac a adferwyd yn 1997-8. Cysegrwyd yr eglwys i Sant Garmon; mae'r eglwys bresennol yn dyddio o 1874.
Yma hefyd mae gweddillion Castell yr Eglwys sef mwnt a beili a roddodd ei enw i'r pentref (am ei fod yn gorwedd yng nghantref Caereinion), a godwyd gan Madog ap Maredudd yn 1156.
Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 509.