Math | palas brenhinol, tŷ bonedd Seisnig, castell, palas, atyniad twristaidd, amgueddfa tŷ hanesyddol |
---|---|
Enwyd ar ôl | Windsor |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Casgliad Brenhinol Lloegr |
Lleoliad | Windsor |
Sir | Bwrdeistref Frenhinol Windsor a Maidenhead |
Gwlad | Lloegr |
Gerllaw | Afon Tafwys |
Cyfesurynnau | 51.4838°N 0.60483°W |
Cod OS | SU9700277033 |
Cod post | SL4 1NJ |
Arddull pensaernïol | Gothig Sythlin |
Perchnogaeth | y Goron |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig |
Manylion | |
Lleolir Castell Windsor yn nhref Windsor, Berkshire, De-ddwyrain Lloegr; dyma'r castell cyfannedd mwyaf yn y byd. Mae'n dyddio'n ôl i oes Gwilym Gwncwerwr, a hwn yw'r castell hynaf i gael ei gyfanheddu'n barhaol. Mae'n un o gestyll enwocaf y byd. Mae arwynebedd llawr y castell yn mesur tua 484,000 troedfedd sgwar (tua 45,000 medr sgwar).
Ynghyd â Phalas Buckingham yn Llundain a Phalas Holyrood yng Nghaeredin, mae'n un o gartrefi swyddogol teulu brenhinol Prydain. Mae'r Frenhines Elizabeth II yn treulio nifer o benwythnosau yn y castell, gan ei ddefnyddio ar gyfer adloniant brenhinol a phreifat. Ei chartrefi eraill, Tŷ Sandringham a Chastell Balmoral, yw cartrefi preifat y teulu brenhinol Prydeinig.