Cath

Cath
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Carnivora
Teulu: Felidae
Genws: Felis
Rhywogaeth: F. silvestris
Isrywogaeth: F. s. catus
Enw trienwol
Felis silvestris catus
(Linnaeus, 1758)
Cyfystyron

Felis catus

Mae’r gath (Felis catus neu domesticus) yn famal bach cigysol dof sydd â blew meddal, trwyn byr wisgerog ac ewinedd gwrthdynnol. Mae’n anifail anwes a fegir am ei chwmnïaeth, yn aml, a’i gallu i hela pryf a nadroedd a hynny ers o leiaf 9,500 o flynyddoedd.[1]

Mae’n heliwr celfydd, a cheir dros fil o wahanol fathau. Gellir ei hyfforddi i ufuddhau i orchmynion syml. Mae rhai cathod penodol yn enwog am allu gweithio systemau mecanyddol syml fel dyrnau drysau. Mae cathod yn defnyddio nifer o wahanol fathau o synau ac iaith-gorfforol wrth gyfathrebu. Gyda 600 miliwn o gathod fel anifeiliad anwes ledled y byd, cathod, mae’n bosib, yw’r anifail anwes mwyaf poblogaidd yn y byd.[2]

Credir mai yn yr Hen Aifft y cafodd y cathod cyntaf eu bridio, ond fe ddarganfuwyd mewn astudiaeth yn 2007 mai yn y Dwyrain Canol - a hynny dros 10,000 o flynyddoedd yn ôl.

Gall cath fod yn gath tŷ (neu’n gath anwes), yn gath fferm neu’n gath ledwyllt (neu’n gath grwydr); mae’r olaf yn byw’n rhydd ac yn osgoi cyswllt dynol.[3][4] Gwerthfawrogir y gath ddof gan bobl am ei chwmnïaeth a’u gallu i ladd cnofilod fel llygod. Ceir tua 60 o fridiau gwahanol o gathod.[5]

Mae’r gath yn debyg o ran anatomeg i’r rhywogaethau cathaidd arall: mae ganddi gorff hyblyg cryf, gydag atgyrchau cyflym, dannedd miniog a chrafangau y gellir eu tynnu a'u moeli er mwyn lladd ysglyfaeth bach. Mae ei golwg yn y nos a'i synnwyr arogli wed datblygu'n dda. Mae cyfathrebu cath yn cynnwys lleisiau fel mewian a chanu grwndi, hisian, chwyrlio a rhochian yn ogystal ag iaith y corff sy'n unigryw i gathod. Mae' fwyaf gweithgar gyda'r wawr a'r cyfnos ac yn heliwr unig ond yn rhywogaeth gymdeithasol. Gall glywed synau rhy wan neu'n rhy uchel o ran amledd - a synau sy'n rhy uchel i glustiau dynol, fel y synau a wneir gan lygod a mamaliaid bach eraill.[6] Mae cathod hefyd yn secretu ac yn canfod arogl fferomonau.[7]

Gall cathod dof benywaidd feichiogi rhwng y gwanwyn a diwedd yr hydref, gyda meintiau'r torllwyth yn aml yn amrywio o ddwy i bum cath fach.[8] Mae cathod dof yn cael eu bridio a'u harddangos mewn digwyddiadau fel cathod pedigri cofrestredig. Gall ysbaddu effeithio ar boblogaeth cathod, ond mae cathod ledled y byd ar gynnydd a phoblogaethau o adar yn gostwng[9]

Dofwyd y gath gyntaf yn y Dwyrain Agos tua 7,500 CC.[10] Tybiwyd ers tro bod dofi cathod wedi dechrau yn yr hen Aifft, lle roedd cathod yn cael eu parchu o tua 3100 CC.[11][12] Yn 2020 amcangyfrifir bod 220 miliwn o gathod dan berchnogaeth a 480 wedi mynd yn y gwyllt.[13][14] Yn 2017 y gath ddof oedd yr ail anifail anwes mwyaf poblogaidd yn yr Unol Daleithiau, gyda 95.6 miliwn o gathod yn berchen[15][16][17] a tua 42 miliwn o gartrefi yn berchen ar o leiaf un gath.[18] Yn y Deyrnas Unedig, mae gan 26% o oedolion gath, ac amcangyfrifir bod poblogaeth y cathod anwes yn 10.9 miliwn erbyn 2020.[19]

  1. "Y gath anwes hynaf a ddarganfyddwyd yng [[Cyprus|Nghyprus]]". National Geographic News. 2004-04-08. Cyrchwyd 2007-03-06. URL–wikilink conflict (help)
  2. "Amrwyiaeth cathod gan National Geographic". MySpaceTV. Cyrchwyd 2008-11-22.
  3. Liberg, O.; Sandell, M.; Pontier, D.; Natoli, E. (2000). "Density, spatial organisation and reproductive tactics in the domestic cat and other felids". In Turner, D. C.; Bateson, P. (gol.). The domestic cat: the biology of its behaviour (arg. Second). Cambridge: Cambridge University Press. tt. 119–147. ISBN 9780521636483. Cyrchwyd 25 October 2020.
  4. Clutton-Brock, J. (1999) [1987]. "Cats". A Natural History of Domesticated Mammals (arg. Second). Cambridge, England: Cambridge University Press. tt. 133–140. ISBN 978-0-521-63495-3. OCLC 39786571. Cyrchwyd 25 October 2020.
  5. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Driscoll_al2009
  6. Moelk, M. (1944). "Vocalizing in the House-cat; A Phonetic and Functional Study". The American Journal of Psychology 57 (2): 184–205. doi:10.2307/1416947. JSTOR 1416947. https://archive.org/details/sim_american-journal-of-psychology_1944-04_57_2/page/184.
  7. Bland, K. P. (1979). "Tom-cat odour and other pheromones in feline reproduction". Veterinary Science Communications 3 (1): 125–136. doi:10.1007/BF02268958. https://www.gwern.net/docs/catnip/1979-bland.pdf. Adalwyd 15 May 2019.
  8. Nutter, F. B.; Levine, J. F.; Stoskopf, M. K. (2004). "Reproductive capacity of free-roaming domestic cats and kitten survival rate". Journal of the American Veterinary Medical Association 225 (9): 1399–1402. doi:10.2460/javma.2004.225.1399. PMID 15552315.
  9. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Rochlitz
  10. Driscoll, C. A.; Menotti-Raymond, M.; Roca, A. L.; Hupe, K.; Johnson, W. E.; Geffen, E.; Harley, E. H.; Delibes, M. et al. (2007). "The Near Eastern Origin of Cat Domestication". Science 317 (5837): 519–523. Bibcode 2007Sci...317..519D. doi:10.1126/science.1139518. ISSN 0036-8075. PMC 5612713. PMID 17600185. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=5612713.
  11. Langton, N.; Langton, M. B. (1940). The Cat in ancient Egypt, illustrated from the collection of cat and other Egyptian figures formed. Cambridge University Press.
  12. Malek, J. (1997). The Cat in Ancient Egypt (arg. Revised). Philadelphia: University of Pennsylvania Press.
  13. "Statistics on cats". carocat.eu. 15 February 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 February 2021. Cyrchwyd 15 February 2021.
  14. Rostami, Ali (2020). "30". In Bowman, Dwight D. (gol.). Toxocara and Toxocariasis. Elsevier Science. t. 616. ISBN 9780128209585.
  15. "Pet Industry Market Size & Ownership Statistics". American Pet Products Association. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 February 2019. Cyrchwyd 25 February 2019.
  16. "The 5 Most Expensive Cat Breeds in America". moneytalksnews.com. 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 February 2019. Cyrchwyd 25 February 2019.
  17. "Number of cats in the United States from 2000 to 2017/2018". www.statista.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 March 2019. Cyrchwyd 3 March 2019.
  18. "61 Fun Cat Statistics That Are the Cat's Meow! (2022 UPDATE)" (yn Saesneg). 12 December 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 February 2022. Cyrchwyd 18 February 2022.
  19. "How many pets are there in the UK?". www.pdsa.org.uk (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 March 2021. Cyrchwyd 29 March 2021.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy