Math | pentrefan |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.916514°N 3.245864°W |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | James Evans (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
Pentref bychan yng nghymuned Llan-gors, Powys, Cymru, yw Cathedin (Saesneg: Cathedine). Saif yn ardal Brycheiniog yn ne'r sir, yn y bryniau rhwng Bannau Brycheiniog i'r gorllewin a'r Mynydd Du i'r dwyrain, ger lan ddeheuol Llyn Syfaddon.
Mae Cathedin yn rhan o gymuned Llan-gors, sy'n cynnwys, heblaw pentref Llangors ei hun, bentrefi Llanfihangel Tal-y-llyn a Llangasty Tal-y-llyn. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,045.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[2]