Ceciliaid Allt-yr-ynys

Enw bedydd Cymraeg ac a Seisnigiwyd a'i droi'n gyfenw yw Cecil, a gysylltir gydag enw teulu o wleidyddion Oes y Tuduriaid. Cysylltir yr enw gyda chartrefi Alltyrynys, Swydd Henffordd, Burghley, Swydd Northampton a Hatfield, Swydd Hertford ac mae'n yn deillio'n wreiddiol o gysylltiadau Cymreig.

Y ffurf cynharaf a geir o'r enw yw 'Sitsyllt', sy'n dod o'r enw Cymraeg 'Seisyll': Seisyll ap Ednywain (g.940), sef tad Llywelyn ap Seisyll (g.980) a deyrnasodd dros rannau helaeth o Gymru cyn trosglwyddo'r awenau i'w fab Gruffydd ap Llywelyn yn 1023. Collodd hwnnw ei ben yn 1063 wrth ymladd y Saeson.

Yn ystod 15c ac 16c, gwelir fod ffurf yr enw yn araf ddatblygu i fod yn 'Sissild', 'Cyssel', 'Cecild' a 'Cecil'. Drwy briodas ag aelod o deulu Cymreig y cafodd Robert Sitsyllt hen gartref y teulu, sef Alltyrynys (yn Swydd Henffordd heddiw), ac roedd ystadau'r teulu'n ymestyn i Sir Fynwy. O hyn ymlaen ceir hanes y Sitsylltiaid yn priodi ag aelodau teuluoedd Normanaidd ac yn aml yn ymladd yn erbyn y Cymry. Tua diwedd 15c, fodd bynnag, priododd Richard Cecil y cyntaf i ddefnyddio'r ffurf hwn ar y cyfenw, aelod o deulu Cymreig y Fychaniaid (Vaughan yn ddiweddarach) Tyleglas, Brycheiniog.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy