Ceffyl

Ceffyl
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Perissodactyla
Teulu: Equidae
Genws: Equus
Rhywogaeth: E. caballus
Enw deuenwol
Equus caballus
Linnaeus, 1758
Fideo gan Gyfoeth Naturiol Cymru - yn dangos ceffylau gwedd yn gweithio mewn coedwig.

Carnolyn mawr dof, llysysol, odfyseddog a charngrwn yw ceffyl (Equus ferus caballus)[1] sy'n perthyn i deulu'r Equidae. Gelwir y fenyw yn gaseg, y gwryw yn stalwyn neu'n farch a'r ceffyl ifanc yn ebol.

Mae'n un o ddau isrywogaeth o Equus ferus sydd wedi goroesi; esblygodd dros gyfnod o 45 i 55 miliwn o flynyddoedd, o fod yn greadur bychan aml-fys, Eohippus, i anifail mawr unbys heddiw. Dechreuodd bodau dynol ddofi ceffylau tua 4,000 CC, a chredir bod eu dofi wedi bdod yn beth cyffredin erbyn 3,000 CC. Mae ceffylau yn yr isrywogaeth caballus yn ddof, er bod rhai poblogaethau dof yn byw yn y gwyllt fel ceffylau lledwyllt (neu fferal). Nid yw'r poblogaethau lledwyllt hyn yn geffylau gwyllt go iawn, gan fod y term hwn yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio ceffylau nad ydynt erioed wedi'u dofi. Yn y Gymraeg a rhai ieithoedd eraill, ceir geirfa gyfoethog, arbenigol a ddefnyddir i ddisgrifio cysyniadau sy'n ymwneud â cheffylau, sy'n cwmpasu popeth o anatomeg i gyfnodau bywyd, maint, lliwiau, marciau, bridiau, ymsymudiad ac ymddygiad. Mae ceffylau wedi addasu i redeg, gan ganiatáu iddynt ddianc yn gyflym rhag ysglyfaethwyr neu herwr, gan feddu ar ymdeimlad rhagorol o gydbwysedd ac ymateb ymladd-neu-hedfan cryf. Yn gysylltiedig â'r angen hwn i ffoi rhag unrhyw berygl, ceir un nodwedd anarferol iawn: gall ceffylau gysgu ar eu traed a'u gorwedd, gyda cheffylau iau yn tueddu i gysgu llawer mwy nag oedolion (fel pobl!).[2] Mae ceffylau benywaidd, a elwir yn gesig (unigol: caseg), yn cario eu cywion am tua 11 mis, a gall ceffyl ifanc, a elwir ebol, sefyll a rhedeg yn fuan ar ôl ei eni. Mae'r rhan fwyaf o geffylau'n dechrau cael eu dofi gyda chyfrwy neu mewn harnais rhwng dwy a phedair oed. Maent yn cyrraedd eu llawn dwf erbyn maen nhw'n bump oed, ac mae ganddynt hyd oes cyfartalog o rhwng 25 a 30 blynyddoedd (gw. isod).

Mae bridiau ceffylau wedi'u rhannu'n fras yn dri chategori yn seiliedig ar anian gyffredinol: "gwaed poeth" gyda chyflymder a dygnwch; "gwaed oer", megis merlod, sy'n addas ar gyfer gwaith araf, trwm; a "gwaed cynnes", a grewyd drwy groesi ceffylau gwaed poeth a gwaed oer, gan ganolbwyntio'n aml ar greu bridiau at ddibenion marchogaeth penodol, yn enwedig yn Ewrop. Mae mwy na 300 brid o geffylau yn y byd heddiw, a ddatblygwyd ar gyfer llawer o wahanol ddefnyddiau, gan gynnwys cludo marchogion arfog, enw a ddaw o'r gair 'march'.

Mae ceffylau a bodau dynol yn rhyngweithio mewn amrywiaeth eang o gystadlaethau chwaraeon a gweithgareddau hamdden anghystadleuol, yn ogystal â mewn gweithgareddau fel gwaith heddlu, amaethyddiaeth, adloniant a therapi. Yn hanesyddol, defnyddiwyd ceffylau mewn rhyfela, ac o hynny datblygodd amrywiaeth eang o dechnegau marchogaeth a gyrru (ee gyrru gwartheg ar lwyfandiroedd eang), gan ddefnyddio llawer o wahanol arddulliau o offer a dulliau rheoli. Mae llawer o gynhyrchion yn deillio o geffylau, gan gynnwys cig, llaeth, croen, gwallt, asgwrn, a fferyllol a dynnir o biso cesig beichiog. Mae bodau dynol yn darparu bwyd, dŵr a lloches i geffylau dof, yn ogystal â sylw gan arbenigwyr fel milfeddygon a ffarier (milfeddyg sy'n arbenigo mewn ceffylau).

  1. International Commission on Zoological Nomenclature, 2003,Usage of 17 specific names based on wild species which are pre-dated by or contemporary with those based on domestic animals (Lepidoptera, Osteichthyes, Mammalia): conserved. [1]
  2. "Do You Know How Horses Sleep?". Cyrchwyd 12 September 2018.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy