Enghraifft o gerfluniaeth Gothig: rhan o'r tympanwm canolog yn Eglwys Gadeiriol Chartres, Ffrainc. | |
Enghraifft o'r canlynol | arddull mewn celf, symudiad celf |
---|---|
Math | celf ganoloesol |
Dechreuwyd | 1140 |
Daeth i ben | 1530s |
Rhagflaenwyd gan | celf Romanésg |
Olynwyd gan | y Dadeni Dysg |
Yn cynnwys | Gothig Rhyngwladol, pensaernïaeth Gothig |
Gwladwriaeth | Ffrainc, yr Eidal, yr Ymerodraeth Lân Rufeinig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Arddull yn y celfyddydau gweledol a flodeuai yn Ewrop, yn y gorllewin a'r canolbarth yn bennaf, o ganol y 12g hyd at ddiwedd y 15g yw celf Gothig. Yn hanes celf y Gorllewin, saif yr oes Gothig rhwng celf Romanésg y 11g a'r 12g a'r Dadeni Dysg a ymgododd yn yr Eidal yn y 14g. Ei brif gyfrwng oedd pensaernïaeth, a gwelir y dull hefyd mewn paentio, cerfluniaeth, a llawysgrifau goliwiedig y cyfnod. Caiff yr esiamplau aruchaf o bensaernïaeth Gothig, sef yr eglwysi cadeiriol mawr a godwyd ar draws gwledydd y gogledd, eu hystyried yn rhan bwysig o etifeddiaeth ddiwylliannol Ewrop a'r Gristionogaeth.[1]
Cychwynnodd yr arddull Gothig yng ngogledd Ffrainc, ac oddi yno ymledodd i bedwar ban y cyfandir: i ddeheudir Ffrainc ac Iberia, i'r Eidal a Malta, ar draws Môr Udd i Loegr, ac i'r Gwledydd Isel a'r Almaen ac i Lychlyn. Fel rheol, celf Gristnogol ydoedd. O'r bensaernïaeth eglwysig a arloesai'r dull Gothig, datblygodd cerfluniaeth grefyddol i addurno'r tu allan. Wrth baentio, defnyddiodd arlunwyr dechnegau newydd i bortreadu ffurfiau mewn modd naturiol, yn hytrach na'r hen ddelweddau anystwyth a gwastad, ar gyfer ffresgoau, allorluniau, paneli, a ffenestri lliw i addurno adeiladau crefyddol. Darluniwyd pynciau seciwlar mewn llawysgrifau goliwiedig, yn ogystal â thestunau crefyddol megis Beiblau a sallwyrau.
Câi celf Gothig ei hwfftio gan brif arlunwyr y Dadeni Dysg, yn enwedig yn yr Eidal. Gwelsai Giorgio Vasari a dyneiddwyr eraill y Dadeni wahaniaeth amlwg rhwng celf a phensaernïaeth ddelfrydol Rhufain hynafol, ac arddull Gothig yr Oesoedd Canol. Fodd bynnag, parhaodd dylanwadau'r Gothig Diweddar yn nodweddiadol o gelf, a phensaernïaeth yn enwedig, yn Nadeni'r Gogledd nes dyfodiad yr oes Faróc yn yr 17g. Byddai clasuriaeth a newydd-glasuriaeth yn cael lle blaenllaw yng nghelf Ewrop hyd at ddyfodiad Rhamantiaeth a'r adfywiad Gothig yn ail hanner y 18g.