Enghraifft o'r canlynol | cangen o fewn cemeg, disgyblaeth academaidd |
---|---|
Math | cemeg |
Y gwrthwyneb | cemeg organig |
Rhan o | cemeg |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Astudiaeth synthesis ac ymddygiad cyfansoddion anorganig ac organometelig yw cemeg anorganig. Mae'r maes hwn yn cynnwys pob cyfansoddyn cemegol heblaw'r nifer helaeth o gyfanosoddion organig (cyfansoddion sy'n seiliedig ar garbon, sydd fel arfer yn cynnwys bondia C-H) ac sy'n cael eu hastudio mewn cemeg organig. Nid oes gwahaniaeth mawr rhwng y ddwy ddisgyblaeth a cheir cryn gorgyffwrdd, yn bwysicaf oll yn yr is-ddisgyblaeth a elwir yn 'gemeg organometelig'. Mae cemeg organig yn cael ei ddefnyddio ymhob agwedd o ddiwydiant cemegol, gan gynnwys: catalysis, gwyddoniaeth defnyddiau, pigmentau, arwynebyddion, araenau, meddyginaethau, tanwydd ac amaethyddiaeth.[1]