Ceredig ap Gwallog | |
---|---|
Bu farw | 617 |
Galwedigaeth | teyrn |
Swydd | brenin |
Tad | Gwallog |
Brenin olaf Elmet (Elfed), teyrnas Frythonig yn y tir sy'n cyfateb i Gorllewin Swydd Efrog heddiw, oedd Ceredig ap Gwallog neu Ceretic, brenin Elmet (bu farw tua 617).
Yn ôl yr Achau Cymreig roedd yn fab i'r brenin Gwallog, a berthynnai i wŷr yr Hen Ogledd, ond ceir peth ansicrwydd am yr uniaethiad hwnnw. Ceir canu gan Taliesin i Wallog.
Cofnoda'r hanesydd Eingl-Sacsonaidd Beda fod y Santes Hilda (ganed 614), aelod o deulu brenhinol Deira, wedi cael ei magu yn llys Ceredig ar ôl ffoi yno rhag Æthelfrith o Bryneich a drawfeddianodd deyrnas Northumbria. Cyfeiria Beda at Geredig ('Ceretic') fel "Brenin y Brythoniaid", ond mae'n debygol mai cyfeirio at y ffaith ei fod yn frenin ar Frythoniaid Elmet yr oedd Beda. Pan ddychwelodd Edwin, brenin Deira, i rym yn 617, cafodd Ceredig ei yrru allan o'i deyrnas, am ei fod yn euog o wenwyno tad Hilda yn ôl Beda, a meddianwyd Elmet gan Northumbria.
Dyma'r 'Ceretic', mae'n debyg, y cofnodir ei farw yn y flwyddyn 616 yn yr Annales Cambriae (dyddiad y mae angen ei newid i tua 617 neu'n fuan wedyn, gan na ddaeth Edwin i rym tan y flwyddyn honno).
Cyfeirir at Geredig ap Gwallog yn y Trioedd fel perchennog un o 'Dri Gordderchfarch Ynys Prydain'.
Ceir cyfeiriad at arwr o'r enw Ceredig yn 'Y Gododdin' hefyd, ond gan fod yr enw yn bur cyffredin a dyddiad Brwydr Catraeth yn rhy gynnar ni ellir ei dderbyn fel cyfeiriad at Geredig ap Gwallog.