Ceredigion (etholaeth seneddol)

Ceredigion
Etholaeth Sir
Ceredigion yn siroedd Cymru
Creu: 1536
Math: Tŷ'r Cyffredin
AS presennol: Ben Lake (Plaid Cymru)

Mae etholaeth Ceredigion yn ethol aelod i senedd San Steffan. Ben Lake (Plaid Cymru) yw'r aelod seneddol presennol.

Cyn i Elystan Morgan ennill y sedd ym Mawrth 1996 Roderic Bowen oedd yr Aelod Seneddol. Roedd Elystan yn gyn-aelod o Blaid Cymru ond roedd wedi cael ei ddadrithio gan fethiant y blaid i ennill seddau ac ymunodd â'r Blaid lafur ar ôl etholiad cyffredinol 1964. Collodd y sedd yn Chwefror 1974 i Geraint Howells, Rhyddfrydwr ac amaethwr lleol. Roedd Elystan wedi digio nifer o gefnogwyr y Blaid wedi iddo ochri gyda charfan Seisnig ym Mhlaid Lafur yr etholaeth a oedd yn uchel eu cloch yn erbyn sefydlu ysgol gyfun ddwyieithog yn Aberystwyth.

Yn 1983 newidiwyd ffiniau'r etholaeth i gynnwys gogledd Penfro yn ogystal.

Yn 1992 enillodd Cynog Dafis y sedd oddi wrth Geraint Howells gan ddod o'r bedwaredd safle yn yr etholiad flaenorol. Roedd Cynog yn cynrychioli Plaid Cymru a'r Blaid Werdd leol hefyd.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy