Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 2,018 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.5012°N 3.258°W |
Cod SYG | W04000283 |
Cod OS | SO146899 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Russell George (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Steve Witherden (Llafur) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Ceri[1] (Saesneg: Kerry). Enw gwreiddiol y pentref oedd Llanfihangel yng Ngheri. Saif i'r de-ddwyrain o'r Drenewydd ar y briffordd A489, a gerllaw Afon Miwl. Arferai fod yn arglwyddiaeth Maelienydd. Daw'r enw o'r gair 'câr' yn golygu "perthnasau". Defnyddia'r bardd Guto'r Glyn (c.1435 – c.1493) yr enw yn ei farddoniaeth.[2]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Steve Witherden (Llafur).[4]
Gerllaw pentref Ceri mae gweddillion castell mwnt a beili, a adeiladwyd tua 1130 ac a oedd yn brif ganolfan cwmwd Ceri. Roedd ffiniau'r cwmwd yn cyfateb yn fras i ffiniau'r gymuned heddiw. Ail-adeiladwyd yr eglwys, sydd wedi ei chysegru i sant Mihangel, yn 1176. Ceri oedd pen draw Rheilffordd Ceri, oedd yn rhedeg o Aber-miwl. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,922.
Mae'r brîd o ddefaid, Defaid Bryniau Ceri, yn tarddu o'r ardal.