Arwyddair | Servanti civem qverna corona datvr |
---|---|
Math | cymuned |
Poblogaeth | 37,990 |
Pennaeth llywodraeth | Jean-Pierre Gorges |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | arrondissement of Chartres, canton of Chartres-Nord-Est, canton of Chartres-Sud-Est, canton of Chartres-Sud-Ouest, canton of Mainvilliers, Eure-et-Loir |
Gwlad | Ffrainc |
Arwynebedd | 16.85 km² |
Uwch y môr | 142 metr, 121 metr, 161 metr |
Gerllaw | Afon Eure |
Yn ffinio gyda | Champhol, Mainvilliers, Lucé, Luisant, Le Coudray, Gellainville, Nogent-le-Phaye, Gasville-Oisème, Lèves |
Cyfesurynnau | 48.4467°N 1.4883°E |
Cod post | 28000 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Chartres |
Pennaeth y Llywodraeth | Jean-Pierre Gorges |
Dinas hanesyddol yng ngogledd Ffrainc yw Chartres, prifddinas département Eure-et-Loir, sy'n gorwedd 96 km i'r de-orllewin o ddinas Paris. Fe'i lleolir ar fryn ar lan Afon Eure.
Chartres oedd prif dref llwyth y Carnutes, ac yn y cyfnod Rhufeinig fe'i gelwid yn Autricum, o enw'r afon Autura (Eure), ac yna civitas Carnutum. Daw'r enw "Chartres" o enw'r Carnutes. Llosgwyd y ddinas gan y Normaniaid yn 858. Yn y Canol Oesoedd roedd yn brif dref adral Beauce. Cafodd ei chipio gan y Saeson yn 1417, ond fe'u gyrrwyd allan yn 1432. Yn ystod Rhyfeloedd Crefyddol Ffrainc, cipiwyd hi gan Henri IV yn 1591, a choronwyd ef yno dair blynedd yn ddiweddarach. Yn ystod y rhyfel rhwng Ffrainc a Prwsia, fe'i cipiwyd gan yr Almaenwyr yn 1870.
Adeilad pwysicaf y ddinas yw Eglwys Gadeiriol Chartres, sy'n cael ei hystyried yr enghraifft orau o Eglwys Gadeiriol yn yr arddull gothic yn Ffrainc, ac efallai yn y byd. Enwyd yr eglwys fel Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.