Chiara o Assisi | |
---|---|
Ganwyd | Chiara Offreduccio 16 Gorffennaf 1194 Assisi |
Bu farw | 11 Awst 1253 Assisi |
Galwedigaeth | lleian, awdur, religious writer, founder of Catholic religious community, cyfrinydd, athronydd, Poor Clare nun |
Swydd | abades |
Dydd gŵyl | 11 Awst |
Mam | Ortolana |
Santes Gatholig o'r Eidal oedd Chiara o Assisi (ganwyd Chiara Scifi yn Assisi, 16 Gorffennaf 1194; bu farw yn Assisi, 11 Awst 1253). Roedd yn cydweithredu â Ffransis o Assisi. Sylfaenodd urdd y Clariaid Tlodion.
Roedd yn ferch i uchelwr, ond ym Mawrth 1212, ar ôl iddi glywed Sant Ffransis yn pregethu, gadawodd ei chartref cyfoethog ac ymroi i ddilyn Crist mewn tlodi eithafol mewn grŵp o leianod Benedictaidd. Dilynodd ei chwaer, Santes Agnes o Assisi, ei hesiampl 16 diwrnod yn ddiweddarach. Ar ôl i Ffransis adfer capel San Damiano, Assisi, symudodd Chiara ac Agnes yno, lle ymunodd menywod eraill â nhw, gan gynnwys chwiorydd eraill, ffrindiau, ei modryb, a'i mam weddw. Yno yr arhosodd Chiara hyd ei marwolaeth. Roedd ei chymuned yn byw yn unol â rheolau a ysgrifennodd hi yn 1216–17. Ar 9 Awst 1253, ychydig cyn ei marwolaeth, rhoddodd y Pab Innocentius IV gydnabyddiaeth o’r urdd yr oedd hi wedi'i sefydlu (a elwir yn ddiweddarach yn Glariaid Tlodion).[1]
Cafodd ei chanoneiddio ym 1255 gan y Pab Alecsander IV. Yn 1958, fe'i cyhoeddwyd yn nawddsant teledu a thelathrebu gan y Pab Pïws XII.