Mae'r chwarren bitwidol (neu'r hypoffeisis) yn un o'r chwarrennau endocrin - tua'r un faint â phusen. O ran siap, mae'n ymwthio allan o waelod yr hypothalmws ar waelod isaf yr ymennydd. Saif yn y fosa' o fewn asgwrn y sffenoid.
Mae'n secredu (neu'n chwysu) hormonau gan reoli'r homeostasis, gan gynnwys yr hormonnau sy'n ysgogi chwarrennau endocrin eraill. Mae'n cysylltu i'r hypothalmws drwy'r 'median eminence'.